The Maggie Keswick Jencks Cancer Caring Centres Trust is a company limited by guarantee Company Number: SC162451
Mae 18,000 o bobl yn cael eu diagnosio â chanser yng Nghymru bob blwyddyn, gan wynebu cwestiynau anodd, triniaethau blinderus ac emosiynau dyrys a all amrywio o bryder, i unigrwydd ac unigedd. Nid yn unig y mae’r heriau hyn yn effeithio ar y rheini â chanser, maent hefyd yn effeithio ar eu teulu a’u ffrindiau.
Mae Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd yn gweld oddeutu 5,000 o bobl mewn achosion newydd sy’n cael eu diagnosio bob blwyddyn, gyda 50,000 o apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer pobl sy’n byw gyda chanser neu ar ôl canser yn rhwydwaith canser De Cymru.Dyma’r ganolfan ganser fwyaf yn y wlad, ac mae’n darparu gwasanaethau canser arbenigol i dros 1.5 miliwn o bobl yng Nghaerdydd, Casnewydd a thu hwnt.
Mae Maggie’s a Chanolfan Ganser Felindre yn gweithio mewn partneriaeth i greu cymorth canser o’r radd flaenaf i bobl De-ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar lwyddiant Maggie's De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Pan fydd Canolfan Maggie’s yn Ne-ddwyrain Cymru wedi’i sefydlu, disgwylir y bydd hyd at 20,000 yn ymweld â’r ganolfan bob blwyddyn.
Dow Jones Architects sy’n dylunio Maggie’s De-ddwyrain Cymru, cwmni sydd â chysylltiad personol â De-ddwyrain Cymru, gan fod Alun Jones yn dod o Gaerffili’n wreiddiol.Mae Dow Jones yn bractis penseiri arobryn sydd wedi gweithio gyda Tate Britain, Amgueddfa V&A, Hawksmoor’s Christchurch, Spitalfields a The Garden Museum, Llundain.
Bydd perthynas glos rhwng yr adeilad a’r dirwedd, gyda gwahanol ystafelloedd yn cael eu grwpio o amgylch iard ganolog ac yn agor allan i erddi coetir. Cleve West sy’n dylunio’r gerddi a byddant yn cynnwys lle i dyfu bwyd a cherdded ymysg y coed.
Bwrdd y gegin yw canolbwynt y Ganolfan; rhywle i gwrdd â phobl eraill, siarad â’n Harbenigwyr Cymorth Canser neu hyd yn oed eistedd a chael paned o de.
Mae adnoddau ynghylch diagnosis a thriniaeth ar gael am ddim yn y llyfrgell, ac mae cymorth un-i-un ar gael yn yr ystafelloedd llai.Defnyddir ystafelloedd mawr gyda dodrefn cyfforddus ar gyfer cyfarfodydd grŵp a gweithdai, ac mae ystafell dawel yn rhywle i bobl gael hoe oddi wrth weddill y Ganolfan.
Mae gardd sydd wedi’i dylunio’n ofalus yn estyniad braf o’r tu mewn; mae golygfeydd sy’n rhoi hwb i’r galon i’w gweld o’r Ganolfan, ac yn ystod tywydd cynhesach, mae’n lle braf i eistedd ac ymlacio.
Darllen mwy am ymgyrch codi arian Maggie’s De-ddwyrain Cymru.
Syr Roger Jones - Cadeirydd
Geraint Davies
Anita George
Richard Hayward
Camilla Swift
Geraint Talfan Davies
Byddem wrth ein bodd petaech yn rhan o’r broses o gael Maggie’s yn Ne-ddwyrain Cymru.Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith, neu wybodaeth ynghylch cefnogi Maggie’s – fel unigolyn, cwmni, grŵp lleol, ymddiriedolaeth neu sefydliad, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Wendy McManus
wendy.mcmanus@maggiescentres.org
01792 200 001